Roeddwn wedi fy synnu o glywed bod 100,000 o blant yn y DU wedi methu â dychwelyd i’r ysgol ar ôl diwedd y cyfnod clo yn y byd addysg.
Bydd llawer o’r plant hyn heb gael eu gweld gan eu hathrawon ers dwy flynedd ond ysgolion yw’r amddiffyniad cyntaf yn erbyn cam-drin plant.
Dyna pam mae’n bwysig gwybod pwy yw’r plant hyn a pham nad ydynt wedi dychwelyd. Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi fy sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei wneud gan ysgolion ac awdurdodau addysg i gysylltu â’r rhieni hyn.
Gwn fod rhai yn parhau i boeni y bydd eu plant yn cael Covid, yn enwedig os oes ganddynt gyflyrau iechyd eraill. Mae eraill wedi penderfynu addysgu eu plant gartref. Bydd gan y mwyafrif helaeth reswm dilys ond mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol bob amser o’r ffaith y bydd gan bobl eraill gymhelliad cudd dros gadw eu plant o’r golwg.
Yn Lloegr, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg yn ei gwneud yn orfodol i bob awdurdod addysg gadw cofrestrau o blant sy’n cael eu haddysgu gartref. Ar wahân i fod yn ffordd o wybod pwy yw’r plant, mae’n bwysig hefyd i fonitro ansawdd yr addysg sy’n cael ei darparu.
Byddaf yn pwyso ar Lafur Cymru i osod gofynion tebyg yng Nghymru. Gwelwyd achosion dychrynllyd o lofruddiaethau plant yn y wasg yn ddiweddar ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod diogelwch ein plant yn cael blaenoriaeth.