RWYF wedi gofyn am ymchwiliad i’r rheswm pam mae saith o gleifion yn Ysbyty Maesteg wedi marw wedi i achosion o Covid daro’r ysbyty hydref y llynedd gan effeithio ar bob un claf yn yr ysbyty.
Fel llawfeddyg orthopedig wedi ymddeol, rydw i’n bryderus bod haint a gafwyd yn yr ysbyty wedi ymledu mor ddidrugaredd drwy ysbyty bach un ward gan effeithio ar 24 o gleifion. Mae’n codi amheuaeth ynghylch y gweithdrefnau sydd ar waith gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i atal achosion o’r fath. Roedd nifer y gwlâu wedi cael ei gynyddu o’r 20 arferol i 24 ac roedd pob gwely yn cael ei ddefnyddio pan gafodd y claf cyntaf brawf positif. Ymledodd y feirws yn gyflym er gwaethaf yr ymdrechion i gadw cleifion ar wahân a gwnaethpwyd y penderfyniad i adael pawb yno gan gynnwys y rhai nad oedd wedi’u heintio ar y pryd.
Mae’n rhaid i ni gwestiynu ai dyma oedd y cam call, gan i gleifion heb eu heintio gael eu gadael yno yn aros i’r haint eu cyrraedd i bob pwrpas. Roedd nifer ohonynt yn oedrannus a bregus a bu farw saith ohonynt.
Ysbyty bwthyn yw Maesteg, ac nid ysbyty prysur acíwt, felly mae’n rhaid i ni ofyn sut i’r haint gyrraedd yno yn y lle cyntaf. Deallaf y byddai’r cleifion a oedd cael eu trosglwyddo i Faesteg o ysbytai eraill wedi cael eu profi am Covid cyn cael eu derbyn yno. Felly a oedd pobl yn cyrraedd yr ysbyty o gartref gofal neu o’r gymuned heb gael eu profi? Erbyn hydref diwethaf, roedd y peryglon o anfon pobl i amgylcheddau caeedig fel cartrefi gofal neu ysbytai yn hysbys iawn felly dylid bod wedi profi’r cleifion hynny.
Mae angen dysgu gwersi oherwydd mae’r pandemig hwn ymhell o fod wedi chwythu ei blwc, ac mae angen dysgu sut a pham bod yr achosion hyn yn yr ysbyty wedi digwydd.