AS Rhanbarthol Altaf Hussain yn Nhraphont Ddŵr Aberdulais. Adeiladwyd y strwythur hanesyddol hwn, sy'n cael ei ystyried yn heneb, ym 1824 i gysylltu Camlas Nedd â Chamlas Tennant a oedd newydd ei hadeiladu a oedd yn rhedeg draw i Bort Tennant yn Abertawe.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r draphont ddŵr wedi'i difrodi mewn sawl digwyddiad llifogydd mawr pan wnaeth dŵr o Afon Nedd oddi tani orlifo drosti. Cafodd y dŵr ar gyfer Camlas Tennant ei gymryd o Afon Nedd gan gored sydd hefyd wedi'i difrodi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae trigolion Sgiwen a Jersey Marine wedi cysylltu â Dr Hussain yn poeni bod y diffyg dŵr sy'n teithio i Gamlas Tennant yn bygwth bywyd gwyllt sy'n byw yn y gamlas.
Tan y llynedd, roedd dŵr yn parhau i gael ei bwmpio i'r gamlas at ddefnydd Gorsaf Bŵer Baglan sydd bellach wedi peidio â gweithredu. Roedd y cwmni a oedd yn berchen ar yr orsaf bŵer yn talu costau cadw'r pympiau'n rhedeg. Roedd dŵr o'r gamlas yn cael ei gario mewn pibellau ar draws afon Nedd i Faglan.
Mae'r gamlas yn eiddo preifat ac nid oes ganddo incwm erbyn hyn felly nid yw'r perchnogion yn gallu fforddio cadw'r pympiau'n gweithredu. O ganlyniad, mae lefelau dŵr wedi gostwng dros yr haf er maent yn siŵr o godi eto os bydd glaw trwm yn yr hydref.
Meddai Dr Hussain: “Cefais gyfarfod gyda chynrychiolwyr perchnogion y gamlas a hefyd o Ymddiriedolaeth Camlas Nedd a Tennant sy'n ymwneud â diogelu'r dreftadaeth ddiwydiannol sy'n gysylltiedig â'r ddwy gamlas.
"Rwy'n bwriadu cysylltu â CNC, Cadw a Chynghorau Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe i weld a allwn drefnu cyfarfod ar y cyd i geisio datrys y materion dan sylw.
“Mae pryderon am lifogydd pellach yn Canal Side yn Aberdulais, sy'n gwbl ddealladwy, ond mae ofnau hefyd am golli'r draphont ddŵr a'r gored gan fod CNC wedi dweud yn y gorffennol y dylid cael gwared ar y ddwy. Os bydd rhagor o lifogydd yn digwydd a bod y draphont ddŵr yn dioddef mwy o ddifrod, gallai gael ei difrodi yn rhy wael i'w hatgyweirio a byddai'n rhaid ei dymchwel.
“Mae angen i ni ddod o hyd i ateb sy'n cadw'r rhan hon o seilwaith hanesyddol yr ardal sydd â photensial twristiaeth, yn enwedig gan ei bod mor agos at safle Rhaeadr Aberdulais sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rhaid i ni hefyd ddiogelu bywyd gwyllt yng Nghamlas Tennant a sicrhau nad yw trigolion Aberdulais yn dioddef rhagor o lifogydd. Mae'n dalcen caled ond mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd drwy gael pawb i gydweithio.”