Yn ystod y Datganiad Busnes, gofynnodd Altaf i'r Gweinidog Iechyd wneud datganiad yn nodi sut mae rheoli heintiau bellach yn cael ei reoli fel y gallwn ni osgoi sefyllfaoedd ofnadwy fel colli saith claf mewn achosion o Covid yn Ysbyty Maesteg yr hydref diwethaf.
Gweler y trawsgrifiad isod, neu gwyliwch y fideo uchod i weld yr araith lawn.
Altaf Hussain MS
Gweinidog, ychydig wythnosau'n ôl, gofynnais i am ymchwiliad i sut y bu farw saith claf yn ysbyty Maesteg o achosion o COVID yr hydref diwethaf a effeithiodd ar bob claf yn yr ysbyty. Rwy'n deall y byddai cleifion a gafodd eu trosglwyddo i Faesteg o ysbytai eraill wedi profi'n negyddol am COVID cyn eu derbyn. Felly, mae hyn yn golygu y gallai rhywun a ddaeth i mewn i'r ysbyty o gartref gofal neu o'r gymuned fod wedi dod ag ef i mewn. Pam na chawson nhw eu profi? Erbyn hydref diwethaf, roedd peryglon anfon pobl i amgylcheddau caeedig fel cartrefi gofal neu ysbytai yn hysbys iawn, felly dylai profion fod wedi cael eu cynnal. Hoffwn i gael datganiad gan y Gweinidog iechyd yn nodi sut y mae rheoli heintiau yn cael ei reoli erbyn hyn fel ein bod ni'n osgoi canlyniadau trychinebus o'r fath wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.