Mae Altaf yn gofyn a yw’r mesurau a gymerwyd yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Aberogwr wedi gweithio, ac a fyddant yn cael eu cyflwyno mewn lleoliadau eraill.
Gweler y trawsgrfiad isod, neu gwyliwch y fideo llawn uchod i weld cwestiwn Altaf ac ymateb y Prif Weinidog.
Altaf Hussain MS
Hoffwn i ddatgan buddiant gan fy mod i'n gynghorydd etholedig ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Prif Weinidog, adroddwyd ym mis Gorffennaf fod yr heddlu yn bwriadu defnyddio pwerau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Aberogwr drwy ddefnyddio gorchymyn gwasgaru. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa mor llwyddiannus fu'r mesur hwn, ac a yw wedi gweithio, a yw'n credu bod mannau eraill lle ceir problemau a all elwa ar hyn? Diolch yn fawr iawn.
Prif Weinidog, Mark Drakeford MS
Llywydd, rwy'n credu ei fod yn fwy o fater i'r heddlu a'u partneriaid ar lawr gwlad allu adrodd ar lwyddiant eu mentrau mewn unrhyw ardal, yn hytrach nag i mi. Yr hyn yr wyf i yn ei wybod yw bod cyfarfod wythnosol wedi ei gynnal, ers mis Mai eleni, dan arweiniad gwasanaethau heddlu lleol ond yn cynnwys yr holl bartneriaid golau glas. Yn sefyllfa Ogwr, mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Heddlu Trafnidiaeth Prydain ac eraill yn adolygu'r holl dystiolaeth o weithgarwch dros y penwythnos blaenorol, maen nhw'n edrych ymlaen at ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal dros yr wythnos i ddod, ac maen nhw'n ceisio alinio eu hadnoddau i ymateb i'r anghenion cymunedol lleol hynny. Dyna pam y gall plismona cymdogaeth, lle mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yn chwarae cymaint o ran, yn gallu ymateb i broblemau pan fo angen rhoi adnoddau ar waith yn y ffordd y cyfeiriodd Altaf Hussain ati yng nghyd-destun Ogwr.