Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Hafan
  • Newyddion
  • Ynglŷn ag Altaf
  • Cysylltu
  • ENGLISH
Site logo

Altaf yn codi mwg i gefnogi Bore Coffi Macmillan

  • Tweet
Dydd Iau, 16 Medi, 2021
  • Media
Dr Altaf Hussain, Aelod o Senedd Gorllewin De Cymru, yn y Bore Coffi Macmillan

Fel arfer, mae Bore Coffi blynyddol Macmillan yn gweld miliynau o bunnoedd yn cael eu rhoi i helpu i gefnogi pobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser. Mae'r arian sy’n cael ei godi yn helpu i ariannu gwasanaethau Macmillan i sicrhau bod pobl â chanser yn gallu cael y cymorth corfforol, emosiynol ac ariannol sydd ei angen arnynt. Fel cynifer o elusennau, mae Macmillan wedi gweld gostyngiad enfawr yn ei incwm codi arian o ganlyniad uniongyrchol i effaith barhaus Covid-19. Mae Bore Coffi blaenllaw'r elusen – sy'n un o ddigwyddiadau codi arian hiraf y DU – yn wynebu gostyngiad syfrdanol o 71% mewn incwm am yr ail flwyddyn yn olynol (£20m).

Wrth siarad am eu cefnogaeth i'r digwyddiad codi arian blynyddol, dywedodd Dr Altaf Hussain AS: "Mae Macmillan, ochr yn ochr â'n GIG a phartneriaid eraill, yn gweithio'n ddiflino i wneud beth bynnag mae'n ei gymryd i bobl â chanser.  Maen nhw’n gwneud hynny ar adeg pan fo'r amhariad a achoswyd gan Covid-19 yn golygu bod y galw am wasanaethau'r elusen yn uchel, tra bod ei hincwm wedi gostwng.

"Rwy'n falch iawn o helpu i gefnogi bore coffi Macmillan, ac i helpu i roi gwybod i bobl bod y digwyddiad codi arian pwysig hwn yn dal i fynd rhagddo.  Byddwn yn annog unrhyw un i gymryd rhan, ac i drefnu neu gyfrannu at fore coffi lleol yn y ffordd sy'n gweddu orau iddyn nhw."

Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru: "Hoffem gynnig diolch o galon i Altaf am eu cefnogaeth.

"Daw dros 98% o gyllid Macmillan yn uniongyrchol o roddion, a gallai miloedd o bobl golli allan ar ofal hanfodol gan ein nyrsys enwog heb gefnogaeth barhaus y cyhoedd i'n digwyddiad codi arian Bore Coffi.

“Nid gor-ddweud yw dweud nad yw Macmillan a phobl â chanser erioed wedi bod angen cymorth y cyhoedd yn fwy nag ar hyn o bryd.  Nid oes un ffordd neu ffordd gywir o gynnal bore coffi – gall fod beth bynnag yr hoffech chi, a gellir ei gynnal pan fydd yn addas i chi.  Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd pobl yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud hynny."

Mae Bore Coffi Macmillan eleni yn disgyn ar 24 Medi ond gellir cynnal digwyddiadau lleol drwy gydol y flwyddyn. Sut bynnag y byddwch chi’n dewis cynnal eich Bore Coffi Macmillan, gallwch ymweld â https://coffee.macmillan.org.uk am syniadau cynnal, gemau ac ysbrydoliaeth pobi. Am wybodaeth neu gymorth sy'n ymwneud â chanser, ffoniwch Linell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00 (8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu ewch i www.macmillan.org.uk.

You may also be interested in

Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig Flynyddol i Ysgolion Cynradd Lleol

Dydd Mawrth, 11 Tachwedd, 2025
Mae Dr Altaf Hussain AC, Ysgrifennydd Cyswllt y Cabinet Cysgodol dros Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, wedi lansio ei Gystadleuaeth Cerdyn Nadolig Flynyddol yn fawr ei garu — gan wahodd disgyblion ysgol gynradd o bob rhan o'r etholaeth i ddangos eu creadigrwydd a'u hysbryd gwyliau.Mae'r gyst

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Dr Altaf Hussain AS Aelod o'r Senedd Gorllewin De Cymru

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Hyrwyddir gan Dr Altaf Hussain yn Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.
Nid yw Senedd Cymru na Altaf Hussain yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.
Hawlfraint 2025 Dr Altaf Hussain AS Aelod o'r Senedd Gorllewin De Cymru. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree