Yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Senedd, galwodd Dr Hussain AS ar Lywodraeth Cymru i oedi’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol a fydd yn gwahardd busnesau preifat rhag rhedeg cartref gofal plant. Mae mwyafrif y darparwyr gofal yn y sector preifat ac mae llawer yn credu bod ei gwneud yn ofynnol i’r sector cyhoeddus / 3ydd sector i lenwi’r bwlch yn y 18 mis nesaf yn dasg amhosibl.