Wrth arwain dadl yn Senedd Cymru, mae’r llawfeddyg Orthopedig sydd wedi ymddeol a drodd yn wleidydd, Dr Altaf Hussain AS, wedi annog pawb i gymryd camau i atal cwympiadau a thoriadau yn ddiweddarach mewn bywyd. Wrth annerch siambr y Senedd amlinellodd Dr Hussain yr ymchwil a wnaeth i gyfraddau marwolaethau yn dilyn toriadau clun a thynnodd sylw at y ffaith mai Osteoarthritis ac Osteoporosis yw'r prif gyflyrau cronig ymhlith yr henoed sy'n effeithio ar bron i 50% o bobl 65 oed a hŷn. Gydag arosiadau cynyddol am lawdriniaeth Orthopedig, weithiau hyd at 6 blynedd, dywedodd Dr Hussain fod angen inni wneud pethau’n wahanol, gan ganolbwyntio ymdrechion ar atal ac amlinellodd y camau syml y gallai pawb eu cymryd i wella eu cymalau a’u hesgyrn. Gallwch wylio’r ddadl lawn ar Senedd.tv