Arferai Pen-y-bont ar Ogwr fod yn dref fyrlymus, llawn bywyd, llawn siopwyr a busnes. Trist iawn yw gweld y dirywiad yng nghanol y dref, ond mae gan Ben-y-bont ar Ogwr gymaint o botensial. Y cyfnod clo oedd yr hoelen olaf yn arch llawer o fusnesau, a dylem fod yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod y busnesau sydd ar ôl a busnesau newydd nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu.