Mae pandemig Covid-19 wedi profi y tu hwnt i amheuaeth mai iechyd da yw conglfaen ein cymdeithas. Mae Covid wedi achosi cymaint o alar a cholled ac nid oes unrhyw agwedd ar ein bywydau yn parhau heb ei chyffwrdd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £2,402 y pen, sy’n fwy na Lloegr a’r Alban, ond sydd â’r trydydd ffigurau perfformiad gwaethaf. Mae 1 o bob 4 claf yn aros dros 52 wythnos am driniaeth, ac mae 64,000 wedi bod yn aros am ddwy flynedd. Rhaid bod rhywbeth difrifol o'i le. O ganlyniad i hyn, mae pwysau’n cynyddu ar staff y GIG ac mae gofal cleifion yn dioddef. Ac mae yna ymdeimlad bod y GIG yn colli'r frwydr i ddarparu'r safon o ofal y mae pobl yn ei haeddu. Wrth i’r system iechyd a gofal symud ymlaen ac wrth i’r ffocws symud i ailsefydlu gwasanaethau a chefnogi iechyd a llesiant parhaus pobl sydd wedi bod yn aros ac ar eu pen eu hunain; bydd cyfleoedd ar gyfer dysgu pellach ac arloesi. Ac mae'n rhaid i ni barhau i ailadeiladu ein ffordd yn ôl i iechyd.