Ar 3 Mai, cymerais ran mewn dadl i ddiwygio Bil Hawliau Dynol Llywodraeth y DU. Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiogelu a chynnal hawliau dynol. Mae gan y DU draddodiad balch, dros ganrifoedd lawer, fel y byddem yn disgwyl ei weld mewn gwlad sy’n seiliedig ar werthoedd democrataidd rhyddfrydig. Mae egwyddorion rhyddid mynegiant, rhyddid barn, y rhyddid i ymgynnull, addoli, gwerthoedd a hawliau sydd wedi’u cydblethu yn hanes y wlad hon mor bwysig heddiw ag erioed.
Bydd y Bil Hawliau arfaethedig yn sicrhau ein bod yn parchu ein rhwymedigaethau rhyngwladol yn unol â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a byddwn hefyd yn dal ati i gefnogi diwygiadau pellach i’r Confensiwn yn Strasbourg. Bydd y Bil yn cadw’r holl hawliau sylweddol sydd yn y Confensiwn ac yn Neddf Hawliau Dynol 1998.