Gall unrhyw un sy’n cerdded o gwmpas canol tref Pen-y-bont ar Ogwr weld cyflwr truenus ein strydoedd. Mae Stryd Wyndham yn frith o siopau gwag, yn union fel eraill yma ac acw o gwmpas y dref.
Ac nid ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn unig y mae hyn yn digwydd. Y clo mawr oedd yr hoelen olaf yn yr arch i lawer o fusnesau mewn dyfroedd dyfnion, ac i’r rhai sy’n dal ar agor, dydy’r prysurdeb ddim wedi codi yn ôl i lefelau cyn Covid.
Y newid i siopa ar-lein sydd ar fai yn ôl llawer. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers tro ond mae’r sefyllfa wedi gwaethygu drwyddi draw yn ystod y cyfnodau clo.
Mae canlyniadau cymdeithasol difrifol i ddirywiad canol ein trefi. Yn draddodiadol, maen nhw wedi bod yn lleoedd lle mae pobl yn cyfarfod ei gilydd - yn y siopau, caffis a’r tafarndai. Rhyngweithio fel hyn yw asgwrn cefn ein cymuned ers cyn cof.
Heb hynny, mae pobl yn colli cysylltiad gyda’u cymdogion wrth i bawb fyw bywydau ar wahân o fewn eu swigod bach eu hunain.
Bydd pobl yn aros i ffwrdd o’n trefi oni bai bod y siopau a’r gwasanaethau a gynigir yn eu denu yno. Mae cau siopau yn dechrau dirywiad diflas gan fod busnesau eraill sy’n dibynnu ar ymwelwyr yn cau eu drysau hefyd.
Mae Llywodraeth y DU wedi datgelu cynllun yn ddiweddar i anadlu bywyd o’r newydd i ganol trefi yn Lloegr. Byddant yn deddfu i orfodi landlordiaid i osod unedau sydd wedi bod yn wag ers mwy na chwe mis. Bydd gan awdurdodau lleol y pŵer i gynnal arwerthiannau rhentu lle gall busnesau newydd neu grwpiau cymunedol gynnig am yr hawl i rentu eiddo.
Landlordiaid masnachol mawr sy’n berchen ar lawer o’r safleoedd yng nghanol ein trefi. Mae llawer yn byw yn y gorffennol pan roedd ein strydoedd yn fwrlwm o brysurdeb ac yn gofyn am rent hurt o uchel. Bydd y newid hwn yn eu gorfodi i ostwng rhent i lefelau fforddiadwy gan roi rhywfaint o obaith i fusnesau lwyddo.
Byddaf yn erfyn ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i ystyried rhoi cynllun o’r fath ar waith yng Nghymru lle mae un o bob saith siop yn wag er bod hyn yn llawer uwch mewn rhai ardaloedd.