Mae 70% o'r 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru yn eiddo i berchen-feddianwyr. Ar gyfartaledd, Cymru sydd â'r eiddo hynaf yn y Deyrnas Unedig. Oherwydd oedran yr adeiladau, mae llawer o aelwydydd yn y categori hwn yn defnyddio mwy o ynni o ddydd i ddydd. Mae hyn yn rhwystr sylweddol i Lywodraeth Cymru o ran cyrraedd ei tharged datgarboneiddio. Fy Nghwestiwn i'r Gweinidog yw, sut mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i deuluoedd yng Nghymru symud oddi wrth nwy a dechrau defnyddio ffynonellau adnewyddadwy modern, a phwy fydd yn talu am hyn?
Fel y gwyddom i gyd, mae biliau ynni'n cynyddu'n sylweddol ar hyn o bryd ac mae llawer o deuluoedd yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Prin fod gan rai incwm dros ben ar ddiwedd y mis. Ar hyn o bryd, mae ffynonellau adnewyddadwy yn costio miloedd i'w prynu a'u gosod. Yn syml, mae llawer o deuluoedd sydd ddim yn gallu fforddio hyn.