Dywed Dr Altaf Hussain AS wrth y Senedd fod angen cynllun credadwy i sicrhau dyfodol dur Cymru, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bawb gydweithio, dod o hyd i atebion yn hytrach na dosrannu bai. Wrth siarad yn ystod dadl frys ar ddyfodol ffatri TATA ym Mhort Talbot, dywedodd Dr Hussain nad oedd yr un o'r atebion a awgrymwyd hyd yma yn cynnig ffordd ymarferol ymlaen.