Cyfrannais at ddadl bwysig Plaid Cymru ar niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Mae niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn her enfawr yn y Deyrnas Unedig. Mae’r pandemig wedi cynyddu’r angen dybryd i atal a datrys y cynnydd mewn camddefnyddio a dibyniaeth ar alcohol a sylweddau.
Mae’r pandemig wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio alcohol yn rheolaidd ac, yn anffodus, sy’n dod yn ddibynnol. Mae’n amlwg yn ystod y tymor Senedd hwn bod angen i ni weithio ar unwaith i atal a gwrthdroi’r duedd hon sy’n destun pryder.