Yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog, galwodd Dr Altaf Hussain AS ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu gwariant ataliol ar iechyd wrth osod cyllideb y flwyddyn nesaf. Gall cynlluniau fel Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan arbed miliynau i’r GIG yn y tymor hir. Dywedodd Dr Hussain fod cost y Pandemig ynghyd ag ymdrechion y Llywodraeth i ffrwyno’r argyfwng ynni a chostau byw yn golygu bod Dyled Genedlaethol y DU yn ddau driliwn a hanner o bunnoedd, sy’n cyfateb i gant ac un y cant o CMC. Felly mae'n rhaid gwneud dewisiadau anodd. Ond fe anogodd Lywodraeth Cymru i beidio â chaniatáu i feddylfryd tymor byr ddylanwadu ar eu penderfyniadau.