Mae PRYDERON wedi'u codi am brinder diffoddwyr tân rhan amser (wrth gefn) hyfforddedig. Er bod gostyngiad wedi bod yn nifer y tanau mewn tai yn ystod y blynyddoedd diwethaf, diolch byth, mae’n dal yn amlwg ein bod ni i gyd yn dibynnu ar griw tân ar gael pe bai’r gwaethaf erioed yn digwydd i ni a’n teulu.
Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr orsaf dân sydd â staff 24/7 ynghyd ag ail griw o ddiffoddwyr tân wrth gefn sy’n camu i mewn fel cymorth wrth gefn i’r criw llawn amser.
Er bod gan y fwrdeistref ail orsaf amser llawn ym Maesteg, mae'r holl orsafoedd eraill - Porthcawl, Mynydd Cynffig, Pencoed, Pontycymer a Chwm Ogwr - yn dibynnu ar griwiau wrth gefn hyfforddedig iawn. Ond mae niferoedd yma yn gostwng – byddai rhai yn dweud oherwydd newidiadau a gyflwynwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i’w telerau ac amodau. Ond a bod yn deg, mae'r niferoedd hefyd yn gostwng ledled Cymru lle mae 328 o swyddi gwag erbyn hyn. Y canlyniad yw cynnydd mewn amseroedd ymateb.
Beth bynnag fo'r achos, mae'n rhaid ei drwsio nawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd drosodd y gwaith o redeg y gwasanaeth tân yn lleol yn ddiweddar oherwydd problemau eraill a byddaf yn annog gweinidogion i sicrhau bod mwy o recriwtio a hyfforddi diffoddwyr tân rhan-amser yn digwydd fel y gellir ymdrin ag unrhyw fylchau yn y cyflenwad.