Mae Altaf yn gofyn i’r Gweinidog am Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ac a fydd cyrff sy’n derbyn cyllid gan y Llywodraeth ac sydd ddim yn rhai cyhoeddus yn cael eu gorfodi i’w ddilyn.
Gweler y trawsgrifiad isod, neu gwyliwch y fideo llawn uchod i weld cwestiwn Altaf ac ymateb y Gweinidog.
Altaf Hussain AS
Mae mynd i'r afael â hiliaeth yn fusnes i bawb ac mae'n rhaid iddo fod yn fusnes i bawb. Ceir sectorau yng Nghymru sy'n cael eu cefnogi'n ariannol gan Lywodraeth Cymru, er nad ydynt yn gyrff cyhoeddus ac felly ni fydd yn ofynnol iddynt gadw at ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. A wnaiff y Gweinidog ystyried deddfwriaeth i orfodi hynny lle mae cyrff yn cael cymorth ariannol gan y Llywodraeth?
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS
Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain. Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, a reoleiddir gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn ddyletswydd yn y gyfraith. Rydym yn ei ddiwygio ar hyn o bryd mewn gwirionedd; rydym yn ei ystyried ar hyn o bryd. Rydym wedi gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol hefyd. Mewn llawer o achosion, mae gennym ddeddfwriaeth a ddylai fod yn mynd i'r afael â gwahaniaethu o'r fath, yn enwedig mewn perthynas â mynediad at wasanaethau cyhoeddus, ond mae angen inni ymateb a chyflawni'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn awr.