Dyma gyfieithiad o erthygl a ysgrifennais ar gyfer y South Wales Evening Post ddoe.
MAE trigolion Castell-nedd wedi cysylltu â mi ynglŷn â phroblemau yng nghanol y dref. Maen nhw'n dweud wrtha i am achosion o ymladd, trywanu, meddwi a chymryd cyffuriau ar y strydoedd yng ngŵydd pawb, gan gynnwys plant.
Rwy'n gwybod bod llawer o bobl ddigartref wedi cael eu cartrefu mewn gwestai yng nghanol y dref ers dechrau'r pandemig. Rwyf wedi cael gwybod bod hyn wedi gwaethygu'r problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol a oedd eisoes yn bodoli ddydd a nos.
Mae Castell-nedd yn dref farchnad hanesyddol sydd wedi gwasanaethu cymunedau lleol ers canrifoedd. Mae Ffair Castell-nedd yn dyddio o'r oesoedd canol ac mae marchnad dan do y dref yn boblogaidd gyda siopwyr sy'n teithio milltiroedd i ddod yma.
Er lles y masnachwyr a'r busnesau yn y dref, yn ogystal â'u cwsmeriaid, rhaid mynd i'r afael â'r problemau hyn ar unwaith.
Rwy'n deall yn iawn pam y defnyddiodd y cyngor westai i gartrefu pobl a oedd ar y strydoedd fel ateb cyflym pan darodd y pandemig y llynedd. Ond mae hyn wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol. Heb os, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghastell-nedd wedi gwaethygu o ganlyniad i hynny.
Byddaf yn cyfarfod â phenaethiaid yr heddlu cyn bo hir pan fyddaf yn codi'r cwynion hyn. Rwyf hefyd wedi gofyn i Gyngor Castell-nedd Port Talbot am ddata am faint o bobl sydd wedi cael eu lletya yng Nghastell-nedd, faint y mae wedi'i gostio i drethdalwyr a faint sy'n dal i gael eu cartrefu'n lleol.
Ni allwn ni gael sefyllfa lle mae gweithgareddau anghyfreithlon yn digwydd yn agored ar strydoedd y dref. Nid yw hyn yn dderbyniol ac mae angen i'r heddlu ymdrin â'r bobl hynny nad ydyn nhw'n gallu cadw at reolau cymdeithas wâr, gan ddefnyddio eu pwerau i'w harestio os oes angen.
Ni all Castell-nedd gael ei difetha gan weithredoedd lleiafrif hunanol sy’n dinistrio ansawdd bywyd y mwyafrif gyda’u hymddygiad gwael.