Fel meddyg wedi ymddeol, mae gen i brofiad o’r gwaith gwerthfawr ond di-glod y mae ein fferyllwyr cymunedol yn ei wneud yn aml.
Ledled Cymru, mae fferyllfeydd wedi cynnig lleoedd lle gall pobl fynd i gael cyngor ar eu problemau iechyd. Roedd eu gwerth yn amlwg yn ystod y pandemig Covid.
Ond dydy’r adnodd hwn ddim yn cael ei ddefnyddio ddigon. Nawr, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi lansio ymgyrch i roi cyhoeddusrwydd i fferyllwyr cymunedol a datblygu eu rôl, ar adeg pan fo’n ysbytai a’n meddygfeydd yn wynebu cynnydd enfawr yn y rhai sydd angen triniaeth.
Mynd i’ch fferyllfa yw’r cam cyntaf callaf i’r rhan fwyaf o bobl. Os nad yw hynny’n addas, bydd fferyllwyr yn ailgyfeirio cleifion yn gyflym at eu meddyg teulu neu i’r ysbyty.
Amcangyfrifir bod 11,000 o ymgynghoriadau yn cael eu cynnal bob diwrnod mewn fferyllfeydd ledled Cymru a bod 86 y cant o achosion yn cael eu datrys yno ar y pryd. Mae hyn yn arbed 35,000 o ymgynghoriadau gan y feddygfa yr wythnos a 2,000 o ymweliadau ysbyty pellach.
Rydw i am i Lywodraeth Cymru leihau’r fiwrocratiaeth ynghylch mynediad at gofnodion meddygol a chyflymu’r broses o gyflwyno e-bresgripsiynau. Gadewch i ni hefyd sicrhau bod rhagor o hyfforddiant ar gael i staff fferyllfeydd er mwyn iddyn nhw allu dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw.