Mae Altaf Hussain, yr Aelod o'r Senedd rhanbarthol, wedi rhoi diffibriliwr i Ganolfan Adsefydlu Brynawel yn Llanharan.
Dyma'r trydydd diffibriliwr y mae wedi'i brynu – mae eisoes wedi rhoi dau i ysgolion lleol. Mae wedi talu am becyn o hyfforddiant gyda phob un ohonynt hefyd.
Mae elusen Brynawel yn darparu cyfleusterau adsefydlu i bobl sy'n camddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Mae'n gweithio ar y cyd â byrddau iechyd lleol a Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau i bobl o ardal eang.
Mae Dr Hussain o’r Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi bod yn gadeirydd y bwrdd sy'n rhedeg y ganolfan, bellach yn ymddiriedolwr ar ôl cael ei ethol i'r Senedd y llynedd. Bu'n gweithio fel llawfeddyg orthopedig hefyd am flynyddoedd lawer.
Meddai: “Rydw i wedi ymgyrchu ers tro byd i ddiffibrilwyr gael eu dosbarthu'n eang ym mhob rhan o'n cymunedau. Os bydd rhywun yn dioddef ataliad y galon, dim ond munudau yn llythrennol sydd ar gael i achub ei fywyd. Rydw i wedi bod mewn cysylltiad ag Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, ynglŷn â'r angen i roi cyhoeddusrwydd i bwysigrwydd y darnau hanfodol hyn o offer oherwydd gwelwyd digwyddiadau annymunol iawn mewn rhai ardaloedd lle cafodd rhai eu fandaleiddio neu eu dwyn.
“Mae’r tri rydw i wedi'u rhoi wedi'u gosod mewn amgylcheddau caeedig felly ni fyddant yn cael eu fandaleiddio, ond mae'n bwysig ein bod yn eu lleoli ar hyd ein strydoedd ac mewn mannau cyhoeddus. Pe bawn i'n cael fy ffordd, byddai un ym mhob stryd. Mewn sawl achos, mae diffibriliwr yn golygu gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Mae'n rhaid i ni fynd ati hefyd i hyfforddi mwy o bobl i'w defnyddio ac i allu gwneud pethau fel CPR hefyd.
“Rydw i’n gobeithio bod hyn bellach yn cael ei gynnwys yn y cwricwlwm ar gyfer ysgolion Cymru. Dim ond un wers sydd ei hangen i roi sgiliau i'r disgyblion a fydd ganddyn nhw am weddill eu hoes wedyn. Mae angen i ni greu cenedl o achubwyr bywyd.”