Bûm mewn seminar yn y Senedd yng Nghaerdydd yn trafod ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Wrth frwydro yn erbyn clefydau sy'n bygwth bywyd, fel niwmonia, HIV a TB, meddyginiaeth wrthfiotig yw un o adnoddau pwysicaf y GIG. Mae enghreifftiau di-rif o wrthfiotigau yn caniatáu i gleifion na fyddent fel arall wedi medru cael llawdriniaeth neu gemotherapi i gael eu trin yn llwyddiannus a gwella'n llwyr. Yn aml, mae gwrthfiotigau yn gallu achub bywydau pobl sydd eisoes yn dioddef o gyflyrau eraill fel Canser.
Fodd bynnag, yn ôl Dr Rick Greville, mae heintiau sy'n gwrthsefyll cyffuriau ar gynnydd. Bob blwyddyn, bydd tua 1.2 miliwn o bobl ledled y byd yn marw o heintiau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau. Mae'r 'arch-fygiau' hyn yn esblygu drwy'r amser. Os na ddown o hyd i ddulliau newydd o atal yr heintiau hyn, amcangyfrifir y bydd nifer y bobl sy'n marw ohonynt yn codi i 10 miliwn y flwyddyn ymhen tri degawd. Nid yw systemau datblygu gwrthfiotigau yn ddigon effeithiol i greu triniaethau newydd ar gyfer lladd yr holl heintiau, clefydau a bygiau sy'n esblygu'n barhaus.
Mae tua un claf o bob tri sydd mewn ysbyty yn dibynnu ar driniaeth wrthfiotig i ladd haint gan gynnwys heintiau sy'n gallu datblygu yn ystod neu ar ôl llawdriniaeth (fel gosod clun neu ben-glin newydd a thrawsblannu organau) neu driniaeth cemotherapi canser. Heb wrthfiotigau, byddai’n amhosibl trin llawer o gyflyrau. Dyna pam mae'n rhaid i ni roi blaenoriaeth i chwilio am wrthfiotigau newydd a diogelu'r rhai sydd gennym yn barod.
Mae'r mater hwn yn effeithio ar bob person ar y blaned. Rhaid i lywodraethau, systemau gofal iechyd a'r diwydiant fferyllol gydweithio i ddod o hyd i ddulliau newydd o ddarganfod a thalu am wrthfiotigau effeithiol. Mae'n hanfodol bod y fframweithiau priodol yn eu lle fel y gall cwmnïau fuddsoddi'r biliynau o bunnoedd angenrheidiol er mwyn dod o hyd i’r gwrthfiotigau newydd sydd eu hangen ar gleifion.
Mae'r sector gwyddorau bywyd gan gynnwys y cwmnïau fferyllol yn allweddol i ddarganfod gwrthfiotigau newydd ac effeithiol, a fydd yn achub bywydau. Mae angen diwygio polisïau ar frys i greu amodau marchnad newydd sy'n sefydlu buddsoddiad newydd a chynaliadwy mewn gwrthfiotigau arloesol.
Mae Prosiect AMR NHS England yn treialu model arddull tanysgrifio newydd ar gyfer gwrthfiotigau, lle mae'r taliad yn seiliedig ar werth asesedig y cynnyrch gan ddefnyddio fframwaith gwerthuso cynhwysfawr newydd. Disgwylir y bydd y model hwn yn dechrau ym mis Ebrill 2022. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn esblygu ac yn dysgu o'r prosiect er mwyn dod o hyd i atebion cynaliadwy, hirdymor ar gyfer pob gwrthfiotig newydd sy'n seiliedig yn gyfan gwbl ar werthoedd, a bod y model yn gweithio ledled y DU gyfan.
Yn ddiweddar, mae ABPI Cymru wedi lansio prosiect ar y cyd yn ymwneud ag ymwrthedd gwrthficrobaidd gyda Tenovus Cancer Care. Mae ar gael o'n gwefan Together for Antibiotics.