Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn enghraifft ragorol o ddarparwr addysg pwysig yn cael ei ystyried fel sefydliad angor mewn cynllun adfywio economaidd. Mae hyn yn fy nghyffroi, ond mae angen i’r cyngor a’r coleg sicrhau bod y myfyrwyr sy’n byw yng nghymunedau’r cymoedd cyfagos yn gallu cyrraedd y campws ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gofynnais i’r Gweinidog ynghylch y drafodaeth y mae wedi’i chael gyda chyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i gynorthwyo cymaint o fyfyrwyr â phosibl i allu mynychu a defnyddio’r cyfleusterau newydd.