Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog tynnodd Dr Altaf Hussain MS sylw at y cyfraddau goroesi gwael ar gyfer y rhai sy'n cael diagnosis o rai mathau o diwmorau sylfaenol ar yr Ymennydd. Tynnodd Dr Hussain sylw’r Prif Weinidog at adroddiad Coleg Brenhinol y Radiolegwyr yn dangos diffyg o 34% mewn radiolegwyr clinigol a diffyg o 12% mewn oncolegwyr clinigol. Heriodd Dr Hussain y Prif Weinidog i fynd i’r afael ar fyrder â materion yn ymwneud â’r gweithlu.