Yn dilyn nifer o wrthwynebiadau lleol, mae Dr Altaf Hussain MS, wedi ymuno â gwrthwynebiad i gais arfaethedig Fferm Solar Ty’n y Wain gan Cenin Energy ar dir ger Heol y cyw. Ymwelodd Dr Hussain â’r safle a siarad â thrigolion lleol a amlinellodd yr effaith y byddai’r fferm solar yn ei chael ar drigolion, yr ardal a’r amgylchedd.
Mae’r aflonyddwch a achosir gan y cynigion yn annerbyniol ac ysgogodd Dr Hussain i gyflwyno ei wrthwynebiadau ei hun i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru