Mae Dr Altaf Hussain wedi galw ar Weinidogion Llywodraeth Cymru, unwaith eto, i gael gwared ar y taliadau uwch am ofal dibreswyl. Yn ôl Anabledd Cymru ni fydd y cynnydd yn gwneud llawer i fynd i'r afael â'r diffygion mewn Awdurdodau Lleol a gallai arwain at bobl yn optio allan o ofal.