Mae Altaf yn Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol wedi ymddeol ac mae wedi cael nifer o swyddi clinigol nodedig yng Nghymru a thu hwnt. Mae wedi bod yn gymrawd Coleg Rhyngwladol y Llawfeddygon ers 1987 a Chymdeithas Orthopedig Prydain yn y DU ers 1985. Ers 2002, mae wedi bod yn Diwtor yng Ngholeg Brenhinol y Llawfeddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd.
Gweithiodd Altaf fel Goruchwylydd yn y maes Ymchwil a Datblygu yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful rhwng 2005 a 2009, lle'r oedd yn Glinigydd Arweiniol hefyd ar y Grŵp Llywio ar gyfer gweithredu Canllawiau NICE, ac ar gyfer Archwilio ac Effeithiolrwydd Clinigol.
Mae’n parhau i weithio fel tiwtor yn y maes Llawdriniaeth Orthopedig ac mae ganddo nifer o swyddi golygyddol sy’n ei alluogi i helpu i lywio a chyfeirio gwaith ymchwil y dyfodol yn y gangen benodol hon o feddygaeth.
Mae gan Altaf record ymchwil nodedig iawn ac iddo ef y mae’r diolch bod nifer o dechnegau llawfeddygol newydd wedi cael eu datblygu. Mae wedi cyfrannu at nifer o erthyglau i lu o gyfnodolion rhyngwladol ac mae wedi derbyn cydnabyddiaeth fyd-eang am yr hyn y mae wedi’i gyflawni. Derbyniodd Wobr y Tîm Ymarfer Gorau 2007, y Glory of India Award 2008 ac mae wedi ymddangos yn “Who’s Who in the World” rhwng 2009 a 2014, yn ogystal ag ymddangos yn rheolaidd yn "Who's Who in Science and Engineering".
Yn ogystal â’i waith fel Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, mae Altaf yn Gynghorydd Cymuned ym Mhen-y-fai ac mae wedi bod yn aelod o fwrdd Plaid y Ceidwadwyr Cymreig, gan wasanaethu fel Cadeirydd Ardal dros Orllewin De Cymru. Mae’n llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Robert yn Abercynffig.
Yn ystod ei amser hamdden, mae Altaf yn mwynhau chwarae golff, darllen a chadw’n heini. Mae’n briod â Khalida, a oedd yn feddyg teulu yn y De cyn ymddeol.