MAE’R NEWYDDION bod gwaith yn mynd rhagddo ar ddylunio ffordd fynediad newydd o Ysbyty Treforys i’r M4 wedi’i groesawu gan yr Aelod Senedd Rhanbarthol, Altaf Hussain.
Cysylltodd Dr Hussain o’r Ceidwadwyr Cymreig â phennaeth Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, Mark Hackett i ofyn beth oedd yn digwydd gyda’r ffordd fynediad sy’n rhan o droi safle Treforys yn ganolbwynt iechyd newydd.
Yn ei ateb, dywedodd Mr Hackett eu bod wedi cael cyllid i ddylunio'r ffordd o Fargen Ddinesig Bae Abertawe a bod hyn yn cael ei ddilyn ar hyn o bryd.
Dywedodd Dr Hussain: “Cwestiynais beth oedd yn digwydd yng ngoleuni adolygiad ffyrdd newydd Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi gweld y mwyafrif o ffyrdd newydd yn cael eu dileu. Fodd bynnag, rwyf wedi fy sicrhau, gan mai ffordd fynediad yw hon, nad yw’r polisi newydd hwn yn effeithio arni.
“Rwy’n casglu bod y bwrdd iechyd yn ceisio cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llu o ddatblygiadau newydd sydd ar y gweill ar gyfer Treforys a bod y ffordd hon yn rhan o’r pecyn hwnnw.
“Mae Treforys ar fin chwarae rhan allweddol yn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd i’r rhanbarth cyfan ac mae’n cael ei ailddatblygu fel rhan o gynllun Arch sy’n dod â’r bwrdd iechyd ynghyd â Phrifysgol Abertawe a hefyd Bwrdd Iechyd Hywel Dda.”