Rwy’n ofni nad yw llawer o fodurwyr yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn gwybod beth sy’n mynd i’w taro ym mis Medi. Dyna pryd y daw symudiad dilornus diweddaraf Llywodraeth Lafur Cymru yn eu rhyfel di-baid yn erbyn y car i rym yn sgil gosod terfyn cyflymder rhagosodedig newydd o 20 mya ledled Cymru.
Mae’n golygu oni bai bod awdurdodau lleol yn penderfynu fel arall, bydd pob stryd sydd ar hyn o bryd yn destun terfyn cyflymder o 30 mya yn dod yn barth 20 mya yn awtomatig.
Hyd yn hyn, mae bron i 50,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi’r penderfyniad hwn ond fe basiodd drwy’r Senedd gyda dim ond y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn.
Mae cost i’r penderfyniad hwn – mwy na £30 miliwn yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru ar gyfer arwyddion newydd a marciau ffordd, ond y brif gost fydd i fusnesau y disgwylir i’r economi gael ergyd o £4.5 biliwn.
Cyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolwyr y Gymdeithas Cludo Nwyddau Ffordd yng Nghymru sydd eisoes yn cael trafferth gyda phenderfyniad cynharach Llywodraeth Cymru i gael gwared ar ffordd liniaru arfaethedig yr M4 er iddi wario £140m ar yr ymchwiliad cyhoeddus ac ar gaffael tir ar ei chyfer. Ar ben hynny, mae Llafur a Phlaid wedi gorfodi rhewi ar bron pob cynllun gwella ffyrdd gan gondemnio cymudwyr, masnachwyr a chludwyr i rwystro ein rhwydwaith ffyrdd annigonol.
Bydd lleihau’r terfyn cyflymder yn cael effaith aruthrol ar bawb – bydd pobl sy’n defnyddio’u ceir i fynd i’r gwaith ac yn ôl yn gweld eu hamserau teithio’n cynyddu. Bydd nifer y danfoniadau y gall faniau a lorïau eu gwneud mewn diwrnod yn lleihau a bydd masnachwyr hunangyflogedig fel plymwyr, trydanwyr ac eraill yn gallu mynd o gwmpas llai o bobl yn ystod y diwrnod gwaith gan leihau eu hincwm.
Bydd hyn oll yn gwneud busnesau Cymru yn llai cystadleuol a gallai gostio swyddi wrth i gwmnïau benderfynu symud allan ac adleoli i rywle arall. Mae’r fantais enfawr a ddaeth i Gymru wrth ddileu tollau Pontydd Hafren, diolch i lywodraeth Geidwadol y DU, eisoes wedi’i dileu.
Ac os yw Llafur yn bwriadu annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, pam y gwnaethant ddileu llawer o gymorthdaliadau ar fysiau rai blynyddoedd yn ôl gan adael rhannau helaeth o Gymru wledig heb un gwasanaeth? Yn aml does gan bobl ddim dewis ond defnyddio’u ceir ond fe fyddan nhw’n cael eu cosbi am hynny gan gynghrair ansanctaidd Llafur a Phlaid Cymru.